Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 3/ Year 3 - Miss S Watkins

Croeso i Flwyddyn 3  - Miss Watkins

Croeso i chi gyd i flwyddyn 3, a’r cam cyntaf yng Nghyfnod Allweddol 2.  Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at flwyddyn llawn o waith, hwyl a sbri yn eich cwmni.  Mae blwyddyn 3 yn flwyddyn bwysig iawn sy’n llawn profiadau a digwyddiadau newydd!

Yn wythnosol byddwn yn parhau i adeiladu ar ein sgiliau ysgrifennu drwy’r ‘Geirio Gwych’ a’r ‘Big Writing’, ac er mwyn datblygu’n sgiliau rhifedd, byddwn yn parhau gyda’r ‘Rhifau Rhagorol’.  Mae’r gweithgareddau hyn yn llawn hwyl a chyffro!

Ein thema y tymor hwn fydd ‘Trwy dwll y clo’.  Mae’n debygol o fod yn thema diddorol ac eang sy’n cynnig llawer o gyfleoedd i ni ymchwilio a dysgu am bethau newydd.  Byddwn yn edrych ar wahanol gartrefi ar draws y byd yn ogystal â hanes y Celtiaid – eu ffyrdd o fyw, eu dillad a’u cartrefi.

Byddai’n fuddiol iawn petai rhieni yn parhau i gefnogi addysg y plant drwy:
Ø  ddarllen yn rheolaidd gyda nhw.
Ø  ymarfer gwaith rhif/tablau.
Ø  annog y disgyblion i siarad ac ymarfer eu Cymraeg ar bob cyfle posib. 
Bydd gwaith cartref yn cael ei osod yn wythnosol, a gwerthfawrogwn petai rhieni yn medru sicrhau bod eu plentyn yn ei ddychweld i’r ysgol yn brydlon.
Rydw i’n siwr y cewn ni flwyddyn hapus, hwylus a phrysur o weithio eleni ym mlwyddyn 3!
 

Welcome to Year 3 - Miss Watkins

Welcome to year 3 and the first step in Key Stage 2.  I’m very much looking forward to a happy year of learning in your company.  Year 3 is particularly important, full of new experiences. 

We shall also be building on our writing skills on a weekly basis by using ‘Geirio Gwych’ and ‘Big Writing’ and in numeracy we shall be using ‘Rhifau Rhagorol’.  All these activities are exciting and promise to be full of fun.

Our theme this term is ‘The Keyhole’.  It promises to be a wide and interesting theme, allowing us to look at a range of new ideas.  We shall be studying different types of homes throughout the world as well as studying the Celts. 

It will be advantageous if parents continue to support their child’s education by:
Ø  reading regularly with them.
Ø  practice numeracy work.
Ø  encourage them to speak and practice their Welsh whenever possible. 

 Weekly homework tasks will be set, and it will be appreciated if parents ensure that their child returns the completed work to school on time.
I’m confident that we shall have a happy, busy and rewarding year together in year 3! I, for one am very much looking forward!

Top