Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 3 / Year 3 - Mr A P Williams a Mrs S Iwan-Jones/Mrs H Francis

Croeso i Flwyddyn 3.

Edrychwn ymlaen at dderbyn y plant wrth iddynt ymsefydlu yn yr Adran Iau. Hyderwn y cawn flwyddyn hwylus, llawn brwdfrydedd a gwaith sydd yn cynnig profiadau newydd ac ysbrydol. Ein nod yw sicrhau fod pob un ohonynt yn hapus, saff ac yn mwynhau’r ysgol wrth iddynt ymateb i’r tasgau neu sialensau sydd o’u blaenau.

 

Mae Blwyddyn 3 yn cynnig heriau newydd yn yr adran Iau llawn prysurdeb ac edrychwn ymlaen at weld y plant yn blodeuo gyda amrywiaeth o gyfleon newydd gan ddysgu i fod yn unigolion iach a hyderus, dinasyddion egwyddol a gwybodus, cyfranwyr mentrus a chreadigol a dysgwyr uchelgeisiol a galluog. Eleni, mi fyddwn yn parhau i ddefnyddio llawer o Hwb a Teams (yn yr ysgol ac adref) ac mi fydd ffocws o hyd ar ddysgu cyfunol gan gynnwys llawer o adnoddau i gefnogi rhieni.

 

Cofiwch gefnogi’ch plentyn eleni trwy ymarfer eu tablau mathemateg, sillafu wythnosol a darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg yn gyson.

 

Gwisgo gwisg Ymarfer Corff pob dydd Iau .

 

I osgoi colled neu ddryswch gofynnwn yn garedig i chi labelu dillad eich plentyn yn glir gyda’u henwau.

 

Cofiwch ddilyn ein cyfrifon Trydar @MrsSJones4 a @MrAPWilliams1 i weld hwyl a sbri y dosbarthiadau.

 

Welcome to Year 3.

We look forward to welcoming the children as they enter the Junior Department. We hope to fulfil a happy, hard-working and successful year. We aim to ensure that the children are safe and enjoy as they try and reach their full potential in a stimulating and homely environment.

Year 3 hopes to provide a variety of enjoyable experiences, as the children blossom with new opportunities whilst learning to be healthy, confident individuals, ethical, informed citizens, enterprising and creative contributors and ambitious, capable learners. This year, we will continue to use Hwb and Teams (at school and at home) and we will continue to focus on blended learning.

 

Remember to support your child by practising their times tables, weekly spellings and continue to support them with their Welsh and English reading.

 

P.E. Kit to be worn every Thursday.

 

Please label clothing clearly with the name which should reduce chance of loss or confusion.

 

Remember to follow our Twitter accounts @MrsSJones4 and @MrAPWilliams1 to receive regular updates from the class.

Top