Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 1 / Year 1 - Miss C Turley

Croeso i dudalen Blwyddyn 1!!

 

Rydym yn ddosbarth llawn blant bywiog, brwdfrydig a charedig sy’n mwynhau dysgu a thrafod pob dim! Rydym yn ffodus iawn i gael Mrs Jenkins yn helpu gyda’n gwaith llythrennedd, rhifedd a llawer mwy gan gynnwys coginio. 

Thema'r tymor yw ‘Dyma Fi’ a hyd yn hyn rydym wedi bod yn brysur iawn yn astudio agweddau o’m bywydau personol megis trefn y dydd.

Hefyd gan fod y dosbarth wedi dangos diddordeb mewn ieithoedd Ewrop a lleoliadau gwledydd ar draws y byd rydym yng nghanol creu ardal chwarae rôl ‘Maes Awyr Sant Curig’ er mwyn iddynt gael ymchwilio ymhellach.

 

Byddwn yn casglu arian Ffrwyth a Llaeth yn wythnosol.

Bydd gwaith cartref neu lyfrau darllen yn cael ei ddosbarthu i bawb bob prynhawn Dydd Iau, i’w dychwelyd i’r ysgol ar y Dydd Llun canlynol os gwelwch yn dda.

Os oes unrhyw newidiadau, byddwn yn gwneud ein gorau glas i roi gwybod i chi.

Cofiwch gysylltu â’r ysgol os oes unrhyw broblem!

 

Hwyl am nawr!

Miss Turley

 

Welcome to our web page!

 

We are a lively, enthusiastic class full of kind pupils who enjoy learning and discussing all types of topics! We are very fortunate to have Mrs Jenkins as a part of our team helping us improve our literacy and numeracy skills and so much more- including cooking. 

 

Our theme this term is ‘Here I am’ and so far we have been very busy studying aspects of our personal lives such as our daily routine.

 

Also, as the class has shown an interest in European languages and locations across the world we are in the middle of creating a ‘St Curig Airport’ in our role play area so that they may further explore.


Fruit and milk money should be paid every Monday.
Homework or Reading Books will be sent home on Thursdays, these should be returned on Monday morning.
We'll try our best to let you know if there are any changes!


Bye for now!
Miss Turley

Top