Menu

Ysgol Sant Curig

Meithrin/ Nursery - Miss H Saar

Croeso mawr i’r Dosbarth Meithrin!                
                                                         A big welcome to the Nursery Class!
 

Ein themau ni y tymor hwn yw ‘Yn yr ardd’ a ‘Teithio’

Cawsom lawer o hwyl wrth ddysgu am fwystfilod bach yr ardd yn ystod yr hanner tymor cyntaf. Aethon ni i chwilio am fwystfilod bach, gwneud arsylwadau a chadw cofnodion, tynnu lluniau a didoli a dosbarthu'r creaduriaid.

Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu’r cwmni ‘Free Range Learning’ i’r dosbarth ar ddydd Gwener 11eg o Orffennaf. Gobeithio cawn gyfle i ddal ac i gyffwrdd ag amrywiaeth o fwystfilod bach!

Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf! Mae’r plant wedi bod wrthi’n dysgu am gerbydau a gwahanol ffyrdd o deithio, dysgu a chanu amrywiaeth o ganeuon newydd, dysgu ac adolygu llythrennau‘r wyddor gan ddefnyddio cynllun tric a chlic, parhau i gryfhau eu sgiliau rhif, cynnal eu mabolgampau cyntaf, dathlu Cwpan y Byd a cymryd rhan yn Sbonc a Sbri.

Does dim munud o lonydd yn y dosbarth Meithrin ond rydym yn mwynhau pob eiliad!

 - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

 

Our themes this term are ‘In the Garden’ and ‘Travel’

During the first half term, we had a lot of fun learning all about various mini beasts. Together we went on a bug hunt, made observations and kept recordings, drew pictures and organised and sorted a range of creatures.

We are very much looking forward to welcoming ‘Free Range Learning’ to our classroom on Friday 11th of July as they bring along an array of mini beasts for us to hopefully hold and feel!

Over the past few weeks we have been very busy! Not only have the children been learning about various vehicles and forms of travel but also learning and singing new songs, learning and revising letters of the alphabet using the ‘Tric a Chlic’ scheme and continuing to build on their number skills. Not stopping there, we have also held our first sports day, celebrated the World Cup and participated in a sponsored bounce.

There isn’t a moment to waste in the Nursery. We are always busy and enjoy every minute!

 

Dyma ein blwyddyn gyntaf yn Ysgol Gymraeg Sant Curig ac i’r rhan fwyaf ein blas cyntaf o’r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at flwyddyn brysur o brofiadau newydd ac wrth gwrs un llawn hwyl a sbri.

Rydym yn lwcus iawn i gael llawer o gymorth yn y Meithrin! Mae Miss Saar, Mrs Isaac, Miss Carter, Miss Martin a Miss Pyle yma i’n helpu yn y dosbarth a thu fas gyda’n gweithgareddau. Rydym hefyd yn hapus iawn i weld Miss Richards yn y dosbarth pob prynhawn Dydd Llun.

Ein thema ni y tymor hwn yw ‘Dyma Fi’. Mi fyddwn yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau ymarferol yn y dosbarth a thu allan wrth ddysgu am ein hunain, ein teulu a’r cartref. Yn ogystal â astudio ystod o straeon traddodiadol, dysgu nifer o ganeuon am y thema a hwiangerddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fyddwn yn trafod gyda'r plant yn rheolaidd am yr hyn fyddan nhw yn hoffi ei ddarganfod am y thema yma. Mae llais y plant yn holl bwysig.

Ar ddydd Mercher a dydd Gwener mae gennym sesiynau ymarfer corff. Nid oes angen dillad ymarfer corff, rydym yn dysgu i dynnu ein esgidiau a sanau yn annibynnol ar hyn o bryd.

Gofynnwn yn garedig i chi ddod a £1 arian ffrwyth a llaeth pob wythnos.
Sicrhewch bod enw eich plentyn ar bob dilledyn. Diolch am eich cymorth.

Edrychwn ymlaen at dymor hapus!

 

This is our first year in Ysgol Gymraeg Sant Curig and for most our first taste of Welsh. We look forward to a fun filled busy year of new experiences.

We are very lucky here in the Nursery to have so much support! Miss Saar, Mrs Isaac, Miss Carter, Miss Martin and Miss Pyle are all here to help us with our activities both in the classroom and outdoors. We also look forward to seeing Miss Richards in the class every Monday afternoon.

Our theme this term is ‘Marvellous Me’. We will be doing lots of hands on activities in the classroom and outdoors whilst learning about ourselves, the family and homes/houses through the medium of Welsh. The children will be part of the planning process and directing their learning as we will be regularly discussing the various areas of our theme that they would like to explore.  

Physical Education sessions will take place on Wednesday and Friday. No PE kit is required as we are currently learning to take our shoes and socks off independently.

We kindly ask that you bring a £1 a week for fruit and milk.
Please ensure your child’s name is clearly labelled on each item of clothing. Thank you for your co-operation.

We’re looking forward to a happy term!

Top