Menu

Ysgol Sant Curig

BLWYDDYN 6 / YEAR 6 MISS MARGED JONES

frownCroeso i ddosbarth Miss M Jones!frown

 

Y Byd yn Brwydro yw ein thema ar hyn o bryd. Rydym am barhau i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog trwy gydol y thema gan ddefnyddio ein gwybodaeth ac addasu ein sgiliau wrth gyflawni tasgau amrywiol. Byddwn yn camu i esgidiau faciwîs yr ail ryfel byd, gan ddechrau taith y tymor drwy astudio hanes Blits Abertawe, 1941. Edrychwn ymlaen at fwynhau perfformiad gan gwmni theatr Mewn Cymeriad o sioe Glenys y Siop. Ar hyd y daith, byddwn yn cymharu profiadau faciwîs yng Nghymru ac yn Lloegr, yn ogystal ag ymchwilio i rôl merched yn ystod y rhyfel. Byddwn yn defnyddio technoleg ddigidol i ddod o hyd i wybodaeth ar arweinyddion rhyfel ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i ysgrifennu portread ohonynt. Byddwn yn diweddu'r daith trwy gynllunio a chynnal parti stryd i ddathlu diwrnod VE. Byddwn yn defnyddio ein sgiliau rhifedd er mwyn dogni'r bwyd ar gyfer y parti! Yn ogystal, byddwn yn ymweld ag Abernant gan fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu'n ddysgwyr mentrus trwy fentro'n bwyllog a dyfalbarhau!

 

Pethau i'w cofio:

 

  • Gosodir gwaith cartref sillafu a thablau ar ddydd Gwener, a chynhelir profion sillafu a thablau y dydd Gwener canlynol
  • Cynhelir gwersi addysg gorfforol ar brynhawn Llun a bore Mawrth

 

 

Our current topic is The World at War. We will continue to be ambitious and capable learners throughout this topic by using our knowledge and adapting our skills when completing various tasks. We will step into the shoes of second world war evacuees, starting our term trip by learning about the 1941 Swansea Blitz. We look forward to enjoying a performance of Glenys y Siop by Mewn Cymeriad theatre company. Along the term trip, we will be comparing the experiences of evacuees in Wales and England, as well as studying the role of women during the war. We will use digital technology to locate information on war leaders and use this information to write a detailed description. We will finish our term trip by organizing and holding a VE Day street party! We will use our numeracy skills to ration food for the party. Also, we will visit Abernant where we will continue to be enterprising, creative learners, willing to take risks and persevere!

 

Things to remember:

 

  • Spelling and times tables homework will be set on Fridays, spelling/times tables tests will take place the following Friday
  • Physical education lessons will take place on Mondays and Tuesdays

 

Top