Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 5/ Year 5 - Mrs H Francis

Croeso i ddosbarth blwyddyn 5 Mrs Francis!

 

Mae llawer o bethau cyffrous o'n blaenau eleni. Byddwn yn astudio'r thema 'O'r tywyllwch i'r goleuni' fydd yn cynnwys elfennau o'n holl sgiliau yn y pynciau amrywiol gan gynnwys ein gwaith Geirio Gwych a Big Writing. Byddwn yn parhau gyda'n gwaith Rhifau Rhagorol. 

Y disgyblion fydd yn gyfrifol am gynllunio rhai o'u gweithgareddau ond rydym eisioes wedi trafod rhai syniadau yn ein thema; er enghraifft Y Pyllau Glo, creu helmed glowr ac astudio'r haul a ffynonellau eraill o oleuni. 
Yn ogystal a hyn, fe fydd Blwyddyn 5 yn cael y cyfle i ymweld a Llangrannog am y tro cyntaf - hwre!


 Cofiwch weithio gyda'ch plentyn drwy ddarllen yn wythnosol, ymarfer eich tablau a gwneud eich Gwaith Cartref ar amser.

Edrychwn ymlaen at flwyddyn llawn sbri a phrysurdeb!

Welcome to Mrs Francis' Year 5 class. We have an exciting year ahead of us.  Our theme will be 'From darkness to light' and will include aspects of the skills in all our subjects together with our Geirio Gwych and Big Writing work.  We will continue to improve our Numeracy through our Rhifau Rhagorol programme. 

The pupils will be responsible for planning some of the activities, although we have already discussed some ideas for the theme such as discovering about coal mining, creating a miner's helmet and learning about the sun and other light sources. 

In addition to this, Year 5 will be visiting Llangrannog for the first time this year - hoorah!

Remember to work with your child by reading on a weekly basis, practicing tables and doing your homework on time.

We look forward to a busy and exciting year.

Top