Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 1/ Year 1 - Miss C Turley

Croeso mawr i dudalen flwyddyn un Miss Turley! 


Rydym yn ffodus iawn i gael Mrs Sian Jenkins a Miss Sam Owens yn ein helpu yn y dosbarth gyda’n gweithgareddau.

Ein thema'r tymor yma yw ‘Y Goedwig’. Byddwn yn astudio pob math o straeon a cherddi yn ymwneud â chreaduriaid sy’n byw yn y goedwig, am goed a dail, gan greu gwaith celf a cherddoriaeth i gyd-fynd gyda beth rydym yn dysgu.

Mi fydd ein gwaith Iaith ar Daith a Rhifau Rhagorol yn parhau ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Ar fore dydd Iau a phrynhawn dydd Gwener mae gennym sesiynau ymarfer corff. Plîs gwnewch yn siwr bod gwisg ymarfer corff eich plentyn yn yr ysgol.

Bydd gwaith cartref bob yn ail ddydd Mercher i gael ei ddychwelyd wythnos a hanner ar ôl, ar y dydd Llun. Bydd llyfr darllen yn mynd adref gyda’ch plentyn pob dydd Gwener i gael ei ddychwelyd i’r ysgol y dydd Llun olynol os gwelwch yn dda.

Cofiwch ddarllen gyda’ch plentyn mor aml â phosibl adref, yn ymarfer sgiliau blendio llythrennau, ymarfer sillafu geiriau allweddol, ffurfio llythrennau a rhifau a mathemateg pen (gweler pecyn blwyddyn un).

Diolch yn fawr am eich cymorth a chydweithrediad. Edrychwn ymlaen at flwyddyn hapus a phrysur ym mlwyddyn un!


A big welcome to Miss Turley’s year one page!! 
We are very fortunate to have Mrs Sian Jenkins and Miss Sam Owens helping us with our class activities.

Our theme this term is ‘The Forest’. We will be studying all sorts of stories and poems, creatures that live in the forest, leaves and trees and creating music and art work to reflect what we have learnt.

Our work on Iaith ar Daith and Rhifau Rhagorol will be continuing and we look forward to developing our literacy and numeracy skills.  

P.E sessions will take place on a Thursday morning and Friday afternoon. Please make sure your child’s P.E kit is in school.

Homework will be distributed every other Wednesday to be returned to school a week and a half later on the Monday. Reading books will be distributed every Friday to be returned on the Monday please.

It would be very beneficial for your child if you could read at home with them as often as possible, practice blending letters, practice spelling key words, forming letters and numbers and mental maths (see the year one pack).

Thank you very much for your support and cooperation.
We look forward to a happy and busy year!

Gwasanaeth Stori'r Gryffalo

Still image for this video

Creu cartref i'r corach

Still image for this video

Gweithdy pel-droed yr Urdd

Still image for this video
Top