Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 2/ Year 2 - Miss C Turley

Ein thema'r tymor yma ydy ar lan y môr. 
Byddwn yn astudio moroedd, deunyddiau naturiol ac annaturiol ac amrywiaeth o greaduriaid!
 
Os oes gennych unrhyw syniadau am weithgareddau, gwefannau, llyfrau a.y.b diddorol a pherthnasol byddwn yn falch iawn o glywed. Yn y cyfamser byddai'n hyfryd i chi holi a thrafod gyda'ch plentyn yr hyn maen nhw'n dysgu er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o'r maes. 
 
Our theme this term is at the seaside.
We will be studying world oceans, natural and artificial artefacts and a range of sea creatures!
 
If you have any ideas regarding activities, websites, books etc that are interesting and relevant we would be happy to hear about them. In the meantime it would be lovely if you could continue to ask and discuss with your child what they are learning in order to develop their understanding of the topic. 

 
Diolch yn fawr,
Tîm blwyddyn dau. 

 

Croeso mawr i dudalen flwyddyn dau Miss Turley! 

Rydym yn ffodus iawn i gael Mrs Willocombe yn ein helpu yn y dosbarth gyda’n gweithgareddau.

Ein thema'r tymor yma yw ‘yn yr ardd’. Byddwn yn astudio pob math o straeon a cherddi yn ymwneud â chreaduriaid ac am blanhigion sy’n tyfu yng Nghymru ac ar draws y byd. Hefyd gwaith celf, daearyddiaeth a cherddoriaeth i gyd-fynd gyda beth rydym yn dysgu. Byddwn yn dysgu llawer am y cynhaeaf er mwyn paratoi ar gyfer ein gwasanaeth (Hydref 24).

Mi fydd ein gwaith Iaith ar Daith a Rhifau Rhagorol yn parhau ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein sgiliau llythrennedd a rhifedd. Ar ddydd Llun a dydd Mercher mae gennym sesiynau ymarfer corff. Plîs gwnewch yn siwr bod gwisg ymarfer corff eich plentyn yn yr ysgol.

Bydd gwaith cartref a geiriau sillafu yn ogystal â llyfr darllen yn mynd adref gyda’ch plentyn ar ddydd Iau/Gwener ac i gael ei ddychwelyd i’r ysgol y dydd Llun olynol os gwelwch yn dda. Cofiwch ddarllen gyda’ch plentyn mor aml â phosibl adref ac ymarfer sillafu geiriau allweddol, ffurfio llythrennau a rhifau a mathemateg pen (gweler pecyn blwyddyn dau).

Diolch yn fawr am eich cymorth a chydweithrediad.
Edrychwn ymlaen at flwyddyn hapus a phrysur!

 

A big welcome to Miss Turley’s year two page!! 

We are very fortunate to have Mrs Willocombe helping us with our class activities.
Our theme this term is ‘in the garden’. We will be studying all sorts of stories and poems about creatures and plants that grow and live in the garden here in Wales and around the world. Also music, art and geographical work to complement our theme. We will be learning a lot about the harvesting season in preparation for our assembly (24 October).  

Our work on Iaith ar Daith and Rhifau Rhagorol will be continuing and we look forward to developing our literacy and numeracy skills.  P.E sessions will take place on a Monday and Wednesday so please make sure your child’s P.E kit is in school.

Homework and words to practice spelling as well as reading books will be distributed every Thursday/Friday to be returned on the Monday please. It would be very beneficial for your child if you could read at home with them as often as possible, practice spelling key words, forming letters and numbers and mental maths (see the year two pack).

Thank you very much for your support and cooperation.
We look forward to a happy and busy year!

Top