Menu

Ysgol Sant Curig

Dosbarth Derbyn / Reception - Mrs N Lewis-Jones/Mrs E Morrison a Miss M Down

Croeso i’r dosbarth Derbyn


Rydym yn ddosbarth o blant hapus a frwdfrydig ac edrychwn ymlaen at flwyddyn llawn anturiaethau a hwyl a sbri!

 

Croesawn yn nol i deulu Curig ac i’r Uned ond rydym nawr yn mynychu’r ysgol llawn amser am y tro cyntaf! Mae’r diwrnodau yn hirach i ni nawr ond mae’r athrawon yma yn ein gofalu a chefnogi, yn ein helpu ac yn ein hannog i wneud ffrindiau newydd  ar bob achlysur. Rydyn ni’n brysur yn cynllunio gweithgareddau di-ri tu fewn a thu allan ac yn barod i ddatblygu ein sgiliau archwilio, arsylwi, arbrofi a chwestiynu a gwnawn gydag annibyniaeth a hyder. Cymraeg bydd sail popeth yn y Derbyn a byddwn yn dysgu trwy ganu a chwarae ar y cyd. Gwrandewch ar ein siarad a chanu yn Gymraeg a beth am ymuno gyda ni ac ein helpu i ddysgu yn y tŷ?
 
Hoffwn ddatblygu perthynas gyda chi fel rhieni a gwarchodwyr, felly cadwch lygaid ar ein tudalen Teams a thrydar a rhannwch unrhyw lwyddiannau adref gyda ni! @DosbDerbynYSC

 

Welcome to the Reception Class

 

We are a class of happy and enthusiastic children and we are looking forward to a year full of fun and adventures! 

 

We were welcomed back into the Unit and the Sant Curig family but we are now attending school full time for the first time! The days maybe longer for us, but all of the staff are here to care for us, to offer support and guidance and to help us to make new friends at every opportunity.  We are busy planning a range of activities both indoors and outdoors and are ready to develop our ability to explore, and observe and to build on our investigative and questioning skills as we strive to work with confidence and independence. The Welsh language will be the basis of all of our activities in the Reception class as we learn through song and co-operative play. Listen to our chatting and singing in Welsh and why not join in and help us to learn some more at home?

 

We would like to build on our relationship with you as parents and guardians, so keep a close eye on our Twitter and Teams pages and share your achievements at home with us! @DosbDerbynYSC

Top