Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 1/ Year 1 - Mrs E Morrison and Miss E Miles

Croeso cynnes i dudalen flwyddyn un Mrs Morrison a Miss Miles! 


Rydym yn ffodus iawn i gael cymorth Miss Holly Sparkes a Miss Sam Owens yn ein dosbarth gyda’n gweithgareddau.

Thema'r tymor yma yw ‘Y Goedwig'. Byddwn yn astudio pob math o straeon a cherddi yn ymwneud â chreaduriaid sy’n byw yn y goedwig gan ddechrau gyda'r Gryffalo! Byddwn yn creu darnau enfawr o gelfwaith a chyfansoddi i gyd-fynd gyda'r thema heb son am fapio a choginio.

Mi fydd ein gwaith Iaith ar Daith a Rhifau Rhagorol yn parhau ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Ar brynhawn dydd Iau a bore dydd Gwener mae gennym weithgareddau ymarfer corff. Plîs gwnewch yn siwr bod gwisg ymarfer corff eich plentyn yn yr ysgol.

Bydd gwaith cartref bob yn ail ddydd Mercher i gael ei ddychwelyd wythnos a hanner yn ddiweddarach , ar ddydd Llun. Bydd llyfr darllen yn mynd adref gyda’ch plentyn pob dydd Gwener i gael ei ddychwelyd i’r ysgol y dydd Llun olynol os gwelwch yn dda.

Cofiwch ddarllen gyda’ch plentyn mor aml â phosibl adref, yn ymarfer sgiliau blendio llythrennau, ymarfer sillafu geiriau allweddol, ffurfio llythrennau a rhifau a mathemateg pen (gweler pecyn blwyddyn un).

Diolch yn fawr am eich cymorth a'ch cydweithrediad. Edrychwn ymlaen at flwyddyn hapus a phrysur ym mlwyddyn un!

A warm welcome to Mrs Morrison and Miss Miles's year one page!! 


We are very fortunate to have Miss Holly Sparkes and Miss Sam Owens helping us with our class activities.

Our theme this term is ‘The Forest’. We will be studying all sorts of stories and poems, and creatures that live in the forest, beginning with the Gruffalo! We'll be creating large pieces of artwork and composing music on the theme, not forgetting mapping and cooking.

Our work on Iaith ar Daith and Rhifau Rhagorol will be continuing, and we look forward to developing our literacy and numeracy skills.  

P.E sessions will take place on a Thursday afternoons and Friday mornings. Please make sure your child’s P.E kit is in school.

Homework will be distributed every other Wednesday to be returned to school a week and a half later on the Monday. Reading books will be distributed every Friday to be returned on the Monday please.

It would be very beneficial for your child if you could read at home with them as often as possible, practice blending letters, practice spelling key words, forming letters and numbers and mental maths (see the year one pack).

Thank you very much for your support and cooperation.
We look forward to a happy and busy year!

Top