Menu

Ysgol Sant Curig

Meithrin/ Nursery - Miss H Saar

Croeso cynnes i'r Dosbarth Meithrin!
Warm welcome to the Nursery class!


Mae 34 ohonom yn mynychu'r meithrin yn y bore ac 14 yn y prynhawn. Dyma ein blwyddyn gyntaf yn Ysgol Gymraeg Sant Curig ac i’r rhan fwyaf ein blas cyntaf o’r Gymraeg. Rydym yn blant hapus a bywiog, ac edrychwn ymlaen at flwyddyn brysur o brofiadau newydd ac wrth gwrs un llawn hwyl a sbri.

Rydym yn lwcus iawn i gael llawer o gymorth yn y Meithrin! Miss Saar yw ein hathrawes a mae Mrs Isaac, Miss Martin a Miss Richards yma i’n helpu yn y dosbarth a thu fas gyda’n gweithgareddau.

We have 35 children in the morning session and 12 attending the afternoon session. For most, this is our first year in Ysgol Gymraeg Sant Curig and our first taste of Welsh. We look forward to a fun filled busy year of new experiences.

We are very lucky here in the Nursery to have so much support! Miss Saar is our teacher and Mrs Isaac, Miss Martin and Miss Richards are all here to help us with our activities both in the classroom and 
outdoors.

 

Ein thema yn ystod tymor yr Haf yw ‘Arwyr mawr a bach'


Croeso mawr i’n ffrindiau newydd unwaith eto!
Rydym wedi croesawu 14 o blant cyn-feithrin arall i’r dosbarth Meithrin y tymor yma.

Dyma ni yn ein tymor olaf yn y dosbarth Meithrin ond nid yw'r hwyl wedi gorffen eto!
 
Mae gwyliau'r haf yn agosau a mae gennym hanner tymor prysur o'n blaenau.
Dysgom am sawl archarwr enwog ar hyd yr hanner tymor cyntaf a nawr awn ati i ddysgu am yr arwyr ym mywyd go iawn! Tybed pwy a ddaw i'n helpu?
 

Our theme this Spring term is 'Heroes great and small'  

 

A warm welcome again to our new friends!
We have welcomed another 14 new pre-nursery children to our class this term. Croeso mawr!

Here we are in our final term in the Nursery class, but don't worry the fun hasn't finished yet!

The summer holidays are getting nearer but we have a busy half term in front of us yet. 
We have already learnt about a number of famous superheroes during the first half term and we will now be discovering our real life heroes! I wonder who will come to help us?
 

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Ein thema yn ystod tymor y Gwanwyn yw ‘Awn am Antur'
 

Croeso mawr i’n ffrindiau newydd!
Rydym wedi croesawu 14 o blant cyn-feithrin i’r dosbarth Meithrin y tymor yma.

Yn ystod tymor y Gwanwyn, fe fyddwn yn astudio’r thema ‘Awn am antur’. Bydd cyfleoedd i’r plant adeiladu ar ei gwybodaeth o’r byd o’n cwmpas wrth teithio trwy’r jyngl, o amgylch fferm, o dan y dwr a trwy’r awyr.

Dewch, awn am antur........... llygaid ar agor, clustiau yn gwrando, meddwl ar ddihun!

 

Our theme this Spring term is 'Venturing out'  
 

A warm welcome to our new friends!
We have welcomed 14 new pre-nursery children to our class this term. Croeso.

During the Spring term, we will be studying the theme 'Venturing out'. The children will have the opportunity to build on and expand their knowledge of the world around them as they travel through the jungle, around a farm, under water and through the air.

Let's go on an adventure........keep your eyes peeled, your ears to the ground and your brain alert! 
 

 - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
 

Ein thema ni y tymor hwn yw ‘Fy myd bach i’ 
 

Mi fyddwn yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau ymarferol yn y dosbarth a thu allan wrth ddysgu am ein hunain, ein teulu a’r cartref ac am ein ffrindiau newydd. Yn ogystal â astudio ystod o straeon traddodiadol, dysgu nifer o ganeuon am y thema a hwiangerddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Mi fyddwn yn trafod gyda'r plant yn rheolaidd am yr hyn fyddan nhw yn hoffi ei ddarganfod am y thema yma. Mae llais y plant yn holl bwysig.

Ar ddydd Llun a dydd Gwener mae gennym sesiynau ymarfer corff. Nid oes angen dillad ymarfer corff, rydym yn dysgu i dynnu ein esgidiau a sanau yn annibynnol ar hyn o bryd.

Gofynnwn yn garedig i chi ddod a £1 arian llaeth a ffrwyth pob wythnos.
Sicrhewch bod enw eich plentyn ar bob dilledyn. Diolch am eich cymorth.

Edrychwn ymlaen at dymor hapus! 
 

Our theme this term is ‘My little world'  
 

We will be doing lots of hands on activities in the classroom and outdoors whilst learning about ourselves, our new friends, the family and homes/houses through the medium of Welsh. The children will be part of the planning process and directing their learning as we will be regularly discussing the various areas of our theme that they would like to explore.  

Physical Education sessions will take place on Monday and Friday. No PE kit is required as we are currently learning to take our shoes and socks off independently.

We kindly ask that you bring a £1 a week for fruit and milk.
Please ensure your child’s name is clearly labelled on each item of clothing. Thank you for your co-operation.

We’re looking forward to a happy term!
 

Top