Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 3/ Year 3 - Mr D Leigh

Croeso i'r ail dymor ym mlwyddyn 3!

Y tymor yma, mae gennym ni thema ardderchog! Ar lan y môr yw
 ein thema, ac fe fyddwn yn cael y cyfle i edrych ar holl anifeiliaid y traeth/môr, lleoli'r Barri ar y map gan edrych ar arfordiroedd Cymru, creu pêl ar gyfer y traeth
, a llawer mwy! Mae gwaith estynedig Geirio Gwych / Big Writing yn parhau i ddigwydd yn bythefnosol, a chofiwch wisg ymarfer corff ar ddydd Llun a  Iau! 

Welcome to our second term in year 3!

This term, we have an excellent theme to look forward to! The seaside is our theme, and we will have the chance to look at the different animals that live under and above the sea, locate Barry and the coastlines on a map, create our own beach ball, and much more! Our Geirio Gwych / Big Writing extended writing task continues to happen every fortnight, and please remember your PE kit every Monday and Thursday.
 

Croeso mawr i dudalen flwyddyn 3! 

Mr Leigh yw ein athro, a rydyn ni yn lwcus dros ben o gael help Mrs Lee yn ein dosbarth. Mae Mr Leigh a Mrs Lee yn rhannu popeth o syniadau, gwybodaeth, ac hyd yn oed cyfenw! 

21 o blant ydyn ni y flwyddyn hon, gyda 10 o ferched ac 11 bachgen. Edrychaf ymlaen at flwyddyn llawn waith caled. Da iawn chi am ymdopi mor wych gyda'r newid enfawr o flwyddyn 2 i flwyddyn 3, mae Mr Leigh a Mrs Lee yn wen o glust i glust!

Yn debyg i'r hyn digwyddodd ym mlwyddyn 2, byddwn yn parhau i ddefnyddio ein sgiliau llythrennedd a rhifedd yn dyddiol. Yn bythefnosol, byddwn yn defnyddio ein sgiliau llythrennedd wrth wneud gwaith estynedig 'Geirio Gwych' a 'Big Writing'. Cewch gyfle i fwynhau a chystadlu yn erbyn eich hunain wrth gwbwlhau'r cwis 'Rhifau Rhagorol' yn wythnosol. 

Ond...
Oherwydd y symudiad enfawr o flwyddyn 2 i flwyddyn 3, fe gewch chi'r cyfle i ddechrau taith o gynhyrchu gwaith Saesneg am y tro cyntaf! Am hwyl a sbri! Bydd sesiynau 'Phonics' yn cael eu gwneud yn ddyddiol. 

COFIWCH!

  • Sesiwn ymarfer corff dwbwl pob prynhawn dydd Iau (cofiwch ddod â ddilad addas ar gyfer pob gwers)
  • Gwaith cartref yn cael ei osod ar ddydd Gwener a dylid ei ddychwelyd erbyn dydd Mercher

Mae pawb yn y dosbarth yn edrych ymlaen at flwyddyn o waith llawn hwyl sydd o'n blaenau - tyfwn ar ein taith.

 

Welcome to Year 3 

Mr Leigh is our class teacher, and we are very lucky to have Mrs Lee's company in the classroom. Mr Leigh and Mrs Lee work very close, and share everything from ideas, information, and the same surname!

We are a class of 21, with 10 girls and 11 boys. We look forward to a year of hard work. Well done for coping with the transition from year 2 to year 3 so well!

Similar to what happened in year 2, we continue to use our literacy and numeracy skills daily. On a fortnightly basis, we will use our literacy skills by completing extended writing tasks during 'Big Writing' and 'Geirio Gwych'. Year 3 will also have the chance to enjoy and compete against themselves during our 'Big Maths' quiz every Friday.

For the first time, we will be embarking on our journey to produce English work. We all look forward to starting, whilst having daily phonics sessions to aid the work. Exciting times ahead!

Please Remember:

  • We have a double PE session every Thursday afternoon. Please remember to bring PE kit to every lesson.
  • Homework will be set on Fridays and should be returned by Wednesday.

We all look forward to a fun packed year, with lots of learning happening daily. 

Top