Menu

Ysgol Sant Curig

Blwyddyn 3/ Year 3 - NIA DAVIES

Croeso i ddosbarth blwyddyn 3 Miss Davies. Edrychaf  ymlaen at gael blwyddyn hwylus, llawn brwdfrydedd, llwyddiannus a gwaith caled. Eleni, byddwn yn astudio’r thema ‘Bant â ni’ fydd  yn cynnwys amryw o sgiliau traws-gwricwlaidd. Byddaf yn rhoi ffocws mawr ar ‘asesu ar gyfer dysgu’ yn y dosbarth gan roi cyfleoedd i blant farcio a thrafod gwaith ei gilydd mewn ffordd sensitif. Er mwyn sicrhau fod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial, mi fydd y plant yn gweithio i darged ac yn gwerthuso eu gwaith yn erbyn eu targedau. Mi fydd hyn yn sicrhau datblygiad cyson yn ystod y flwyddyn.
          Cofiwch gefnogi’ch plentyn eleni trwy ymarfer ei m/fathemateg pen (tablau 2,3,4,5 a 10) a darllen ei ll/lyfrau Cymraeg a Saesneg yn gyson. Bydd pwyslais mawr ar ddarllen, sillafu  a llawysgrifen eleni.
          Rydw i wir yn edrych ymlaen at addysgu’r plant gan sicrhau fod pob un ohonynt yn hapus, yn mwynhau’r ysgol a'u bod yn cyrraedd eu llawn botensial.
Mae blwyddyn 3 yn un brysur tu hwnt ac edrychaf ymlaen at weld y plant yn blodeuo wrth ddysgu sgiliau newydd ar hyd y ffordd.
 
Welcome to Miss Davies'  year 3 class. I look forward to a fun, enthusiastic, hard working and successful year. This term, our theme will be ‘Off we go’ and will include aspects of skills in all our subjects. I will be paying close attention to ‘assessment for learning’. This will allow children to discuss, mark and evaluate each others work sensitively. Children will also be aware of their individual targets and will be constantly evaluating their work according to these targets. These targets will ensure a steady educational development throughout the year.
It is vital that you support your child in any way possible, through practicing their mental Mathematics (tables 2,3,4,5 and 10), or by supervising your child when reading in both English and Welsh. A big focus will be placed this year on reading, spelling and handwriting.
          I am looking forward to teaching your child and ensuring that they enjoy, are happy and reach their full potential in school.

Top